Y GCC yn penodi Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol newydd
11.05.20 Newyddion
11.05.20 Newyddion
Mae'n bleser gan y GCC gyhoeddi bod Joe Omorodion wedi ei benodi'n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol newydd.
Bydd Joe yn cymryd cyfrifoldebau allweddol dros gyllid, llywodraethu a rheoli adnoddau corfforaethol. Mae'n gyfrifydd cymwys a dechreuodd ei yrfa broffesiynol mewn archwilio am bedair blynedd cyn ymuno â'r sector nid-er-elw 25 mlynedd yn ôl, lle mae wedi dal swyddi megis Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau a Chyfarwyddwr Cyllid a Gweinyddiaeth.
Yn ystod y 18 mlynedd diwethaf, bu Joe yn gweithio i aelodaeth broffesiynol a sefydliadau menter gymdeithasol, oedd yn cynnwys Ysgrifenyddiaeth Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad a'r Coleg Brenhinol Therapyddion Lleferydd ac Iaith.
Bydd Joe yn cyfrannu at gyflawni nodau strategol, busnes ac ariannol GCC a rhaglen waith uchelgeisiol.
Croesawodd Prif Weithredwr a Chofrestrydd GCC, Nick Jones Joe:
'Rwy'n falch iawn o groesawu Joe i'r GCC a chwblhau'r uwch dîm rheoli. Daw â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth a fydd yn amhrisiadwy i ni wrth i ni lywio'r amgylchedd heriol dros y misoedd nesaf a thu hwnt. Bydd Joe yn ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol fel rhan o'i ymsefydlu i'r GCC a'r dirwedd yr ydym yn gweithredu ynddo. Rwy'n ddiolchgar iawn i Rui Domingues am ddarparu arbenigedd ariannol a chefnogaeth ardderchog dros dro dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn dymuno'n dda iddo gyda'i aseiniadau yn y dyfodol.'
Mae holl aelodau staff y GCC yn edrych ymlaen at weithio gyda Joe.