Cwrdd â Safonau'r Gymraeg
06.12.23
06.12.23
Yn debyg i'r rheoleiddwyr gofal iechyd eraill, mae'r GCC bellach yn dod o dan Safonau'r Gymraeg, sy'n golygu y bydd ceiropractyddion yn gallu cofrestru gyda'r GCC drwy'r Gymraeg o'r flwyddyn nesaf. Bydd y safonau hefyd yn creu hawliau o ran cymryd rhan mewn achosion cyfreithiol yn Gymraeg, a hawliau pellach drwy safonau gwasanaeth a gweithredu.
Mae llawer o'r newidiadau eisoes wedi'u gweithredu - gyda gwefan GCC a llawer o ddogfennau allweddol eisoes ar gael yn Gymraeg.
Dywedodd Prif Weithredwr a Chofrestrydd GCC, Nick Jones,
"Rydym yn falch o'r cynnydd rydym wedi'i wneud ac yn cydnabod pwysigrwydd y newidiadau hyn i gleifion a chofrestreion yng Nghymru. Fel y lleiaf o'r rheoleiddwyr yr effeithiwyd arnynt, a heb staff sy'n siarad Cymraeg, nid yw wedi bod yn dasg hawdd i ni gwrdd â'r her a osodwyd i ni gan Gomisiynydd y Gymraeg. Mae'r safon yn mynd y tu hwnt i ddim ond gallu darparu ein gwasanaethau yn y Gymraeg. Mae gennym gyfrifoldeb hefyd i wneud yn siŵr ein bod yn ystyried sut y bydd y penderfyniadau a wnawn yn effeithio ar yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymraeg".
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones,
"Nod y safonau yw sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru a bod y Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a'i hwyluso'n glir. Mewn materion iechyd, mae'n hanfodol bod pobl yn cael cynnig gwasanaeth yn eu dewis iaith ac mae'r cam hwn heddiw o osod hysbysiad cydymffurfio ar y cyrff rheoleiddio ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol yn ehangu hawliau gweithwyr yn y sector.
"Er mwyn i'r Gymraeg oroesi ac er mwyn iddi fod yn iaith fyw y gellir ei defnyddio'n ddyddiol, mae angen ei gweld yn amlwg ym mhob maes gwaith o fewn ein cymunedau ac o fewn gwahanol sectorau."
Gallwch ddarllen y safonau fel y maent yn berthnasol i'r GCC ar ein tudalen polisïau.