Ymrwymiad GCC i gydraddoldeb ac amrywiaeth
16.06.20 Newyddion
16.06.20 Newyddion
Mae marwolaethau di-synnwyr George Floyd a llawer o rai eraill o gefndir du a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yn ein hatgoffa o'r anghyfiawnder hiliol ac anghydraddoldeb yn ein cymdeithas heddiw. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae er mwyn sicrhau newid cadarnhaol drwy hyrwyddo cydraddoldeb.
Mae'r GCC yn sefyll gyda mudiad Black Lives Matter a phawb sy'n mynnu diwedd ar hiliaeth, gwahaniaethu a rhagfarn yn y DU a ledled y byd. Rydym yn ailddatgan ymhellach ein hymrwymiad hirsefydlog i gydweithio gyda'n holl randdeiliaid ac aelodau'r cyhoedd i weithredu ac i herio anghydraddoldeb hiliol a chymdeithasol yn y sector hwn.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd gyhoeddus ar gyrff rheoleiddio, fel y GCC, i hyrwyddo cydraddoldeb yn gadarnhaol a gweithredu newidiadau sy'n meithrin amgylchedd cyfartal a chyfiawn i'n staff, ein cofrestryddion a'n rhanddeiliaid. Gallwn ni i gyd wneud ein rhan i hyrwyddo egwyddorion sylfaenol cydraddoldeb, cynhwysiant a chyfiawnder – o fewn y GCC, ac mewn cymdeithas yn gyffredinol, ac i gyfrannu at sicrhau newidiadau cadarnhaol i gleifion, myfyrwyr a'r cyhoedd, i adlewyrchu cymdeithas gyfoes Prydain.
Rydym wedi cymryd camau i adlewyrchu a thrafod y mater cymhleth hwn drwy gael deialog agored o fewn ein tîm, cyfnewid barn a chasglu adborth gan ein cydweithwyr BAME ar sut y gallwn ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymhellach yn ein holl weithgareddau.
Fel rheoleiddiwr a chyflogwr, rydym yn ymdrechu i sicrhau bod ein gweithgareddau'n rhoi cyfle cyfartal drwy:
Dilynwch ni ar Twitter a Linkedin ar gyfer y datblygiadau diweddaraf.