Skip i'r prif gynnwys

DIWEDDARIAD: GELLIR GWELD CANLLAWIAU CYMORTH CYNTAF NEWYDD YMA

Yn ei gyfarfod ym mis Mawrth cymeradwyodd y Cyngor ganllawiau newydd ar Gymorth Cyntaf mewn Argyfyngau.

Mae hyn yn adeiladu ar y bwletin a gyhoeddwyd i'r holl gofrestrwyr ym mis Ionawr 2020 yn dilyn ymateb y GCC i adroddiad crwner Efrog ac mae wedi'i gyhoeddi ar ein gwefan yma.  Mae'n datgan ein disgwyliadau o gofrestrwyr wrth gadw eu cymwyseddau cymorth cyntaf yn gyfredol ac yn berthnasol ac yn cysylltu ein canllawiau â'r Cod.
 
Rydym yn cydnabod bod llawer ohonoch eisoes wedi manteisio ar y cyfle i gael hyfforddiant neu hyfforddiant gloywi a bod llawer o ddarparwyr yn cynnig neu'n edrych i gynnig hyfforddiant ar-lein ar yr adeg anodd hon.  Gofynnwn i chi fyfyrio ar eich sgiliau a'ch gwybodaeth a gwneud cynlluniau ar gyfer unrhyw hyfforddiant sydd ei angen arnoch pan fydd amgylchiadau'n caniatáu hyn.