Datganiad rheoleiddwyr ar y cyd Covid-19
Heddiw rydym wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd â rheoleiddwyr proffesiynol eraill ledled y DU ar sut y byddwn yn parhau i reoleiddio yn sgil y coronafeirws newydd (Covid-19)
03.03.20 Coronafeirws Newyddion
Heddiw rydym wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd â rheoleiddwyr proffesiynol eraill ledled y DU ar sut y byddwn yn parhau i reoleiddio yn sgil y coronafeirws newydd (Covid-19)
03.03.20 Coronafeirws Newyddion
Rydym yn deall, fel gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, y gallech fod yn teimlo'n bryderus am coronafeirws newydd (Covid-19). Ledled y DU, mae sefydliadau iechyd cyhoeddus, swyddogion iechyd y llywodraeth a chyflogwyr yn rhoi cynlluniau ar waith i sicrhau bod pobl yn cael y cyngor, y gofal a'r cymorth cywir a bod gennych chi'r wybodaeth, yr amgylchedd a'r offer gorau i wneud eich gwaith.
Bydd gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol yn chwarae rhan hanfodol yn helpu i drin a chynnwys coronafeirws ac rydym yn cydnabod pe bai'r firws yn lledaenu ymhellach, mae gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol yn debygol o wynebu baich cynyddol o ran helpu'r DU drwy'r haint. Mae'n bwysig bod pawb, yn ystod y cyfnod hwn, yn dilyn cyngor a chanllawiau iechyd cyhoeddus cenedlaethol.
Rydym hefyd yn cydnabod y gallai gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol fod â phryderon dealladwy am benderfyniadau y gall fod angen iddynt eu cymryd er mwyn darparu'r gofal gorau mewn amgylchiadau heriol. Gyda'n gilydd, fel rheoleiddwyr proffesiynol ledled y DU, rydym wedi paratoi datganiad ar y cyd ar sut y byddwn yn cyflawni ein rolau yn ystod y cyfnod hwn.
Rydym yn dal cofrestrau gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol yn y DU. Rydym yn cefnogi'r gweithwyr proffesiynol hynny i ddarparu gofal gwell a mwy diogel drwy osod y safonau y mae angen iddynt eu bodloni, er mwyn gweithredu er budd gorau cleifion a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol bob amser.
Fel gweithwyr proffesiynol cofrestredig, pryder cyntaf yr unigolion ar ein cofrestrau fydd gofal eu cleifion a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn annog gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, gan weithio mewn partneriaeth â'i gilydd a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau, i ddefnyddio eu barn broffesiynol i asesu risg i ddarparu gofal diogel sy'n cael ei lywio gan unrhyw ganllawiau perthnasol a'r gwerthoedd a'r egwyddorion a nodir yn eu safonau proffesiynol.
O dan amgylchiadau hynod heriol, rydym yn cydnabod y gallai fod angen i weithwyr proffesiynol wyro o weithdrefnau sefydledig er mwyn gofalu am gleifion a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ein safonau rheoleiddio wedi'u cynllunio i fod yn hyblyg ac i ddarparu fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn ystod eang o sefyllfaoedd. Maent yn cefnogi gweithwyr proffesiynol drwy dynnu sylw at yr egwyddorion allweddol y dylid eu dilyn, gan gynnwys yr angen i weithio ar y cyd â chydweithwyr i gadw pobl yn ddiogel, i ymarfer yn unol â'r dystiolaeth orau sydd ar gael, i gydnabod a gweithio o fewn terfynau eu cymhwysedd, a chael trefniadau indemniad priodol sy'n berthnasol i'w hymarfer.
Rydym yn cydnabod y gall yr unigolion ar ein cofrestrau deimlo'n bryderus am sut mae cyd-destun yn cael ei ystyried pan fydd pryderon yn cael eu codi am eu penderfyniadau a'u gweithredoedd mewn amgylchiadau heriol iawn. Pan fydd pryder yn cael ei godi am weithiwr proffesiynol cofrestredig, bydd bob amser yn cael ei ystyried ar ffeithiau penodol yr achos, gan ystyried y ffactorau sy'n berthnasol i'r amgylchedd lle mae'r gweithiwr proffesiynol yn gweithio. Byddem hefyd yn ystyried unrhyw wybodaeth berthnasol am adnoddau, canllawiau neu brotocolau sydd ar waith ar y pryd.
Mae'n bosibl y byddwn yn cyhoeddi canllawiau penodol i'r proffesiwn i gofrestrwyr i ddarparu cymorth ychwanegol lle mae angen hynny.
Y rheoleiddwyr iechyd a gofal statudol sydd wedi cytuno i'r datganiad hwn yw:
Cyngor Cyffredinol Chiropractic
Cyngor Deintyddol Cyffredinol
Cyngor Meddygol Cyffredinol
Cyngor Optegol Cyffredinol
Cyngor Osteopathig Cyffredinol
Cyngor Fferyllol Cyffredinol
Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
Cymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon
Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban
Gwaith Cymdeithasol Lloegr